churchschoolwales.org

Datganiad o Genhadaeth

Mae'r Ysgol Eglwys hon yn lle cenhadol sy'n tystiolaethu i'r Efengyl.

...fel bod...

Dylai pob ysgol fod yn lle arbennig, yn lle diogel, yn lle i ddysgu, yn lle o feithrin ac ymchwil. Rhaid i ysgol ddangos didwylledd a derbyniaeth, goddefgarwch a maddeuant. Ynddi, bydd gwerthoedd ac agweddau yn cael eu creu a bydd pob unigolyn yn cael ei ddathlu fel rhywun unigryw.

Mae Ysgol Eglwys yn ymgorfforiad o'r holl bethau hyn, ond mae hi hefyd yn datblygu cymeriad Cristnogol neilltuol trwy ei haddysg grefyddol, ei chydaddoli a'i hethos, sy'n gwneud cariad a phresenoldeb Duw yn hysbys i'r byd.

Y Parchedicaf Peter Smith
Archesgob Caerdydd

Y Parchedicaf Barry Morgan
Archesgob Cymru