Gwneud Cais am Le mewn Ysgol Eglwysig

Dewis Ysgol
Fel rhiant, y mae gennych hawl i ddewis addysg enwadol i’ch plentyn a bydd y wefan hon yn dangos i chi ble mae’ch ysgol Gatholig neu Eglwys yng Nghymru agosaf.
Yn gyntaf oll, mae’n bwysig ymweld â’r ysgol er mwyn bodloni’ch hunan ei bod yn cwrdd ag anghenion eich plentyn. Wrth wneud hyn, neu yn bosibl cyn gynted â’ch bod wedi trefnu apwyntiad, dylech dderbyn prospectws yr ysgol. Mae gwefannau’u hunain gan nifer o ysgolion. Trwy’r rhain, cewch ddod o hyd i lawer o wybodaeth am yr ysgol a’i strwythur ynghyd â beth a ddisgwylir gennych chi a gan eich plentyn. Partneriaeth yw addysg rhwng rhieni, athrawon ac oedolion eraill sydd yn gweithio yn yr ysgol. Da o beth yw i’r partneriaid ddeall ei gilydd o’r dechrau.
Gwneud Cais
Bydd prospectws yr ysgol neu’r wefan yn dweud wrthych sut i wneud cais am le yn yr ysgol a phryd i wneud hyn. Esbonir polisi mynediad yr ysgol yn fanwl. Bydd hyn yn cynnwys y meini prawf a ddefnyddir gan lywodraethwyr yr ysgol neu’r Awdurdod Addysg Lleol wrth benderfynu pa blant fydd yn cael lle yn yr ysgol os oes mwy o geisiadau na sy o leoedd. Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen y polisi yn ofalus.
Bydd disgwyl i chi lenwi ffurflen neu ysgrifennu llythyr cais am le. Mae’n bwysig eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a fydd yn helpu rhywun sy ddim yn eich adnabod i farnu pa mor gymwys ydych chi a’ch plentyn yn ôl y meini prawf cyhoeddiedig.
Meini Prawf Nodweddiadol
Gan amlaf, bydd yr ysgol eglwysig yn gwasanaethu’r dalgylch agosaf i’r ysgol.. felly bydd llawer o’r meini prawf yn sôn am ble rydych chi’n byw a pha mor bell y bydd rhaid i chi deithio er mwyn cyrraedd yr ysgol.
Mae nifer fechan o ysgolion eglwysig, ysgolion uwchradd gan fwyaf, yn defnyddio meini prawf yn ymwneud a`ch ymrwyneud at waith ac addoli yn yr eglwys leol neu efallai mewn cymuned ffydd arall. Os felly, bydd yn bwysig i chi ateb y cwestiynau`n glir fel y bydd y llywodraethwyr yn gallu deall eich ymrwymiad yn llawn. Byddant yn gofyn am dystiolaeth o’ch gwaith oddi wrth arweinyddiaeth yr eglwys.
Mewn nifer fechan o achosion, gall yr ysgol gynnig lleoedd agored i blant teuluoedd sydd yn byw nid nepell o’r ysgol ond sy ddim o reidrwydd yn chwarae rhan blaenllaw yn yr eglwys leol.
Y mae rhai ysgolion eglwysig yn cadw lleoedd i blant sydd ag anghenion addysg arbennig. Os oes anghenion arbennig gan eich plentyn, ac os ydych yn credu bod eich pentyn yn haeddu lle ar sail hyn, yna dylech gyflwyno’r holl dystiolaeth o blaid eich achos – gan gynnwys manylion am anghenion eich plentyn - er mwyn argyhoeddi’r ysgol y dylent gynnig lle i chi. Eto, bydd y llywodraethwyr yn mynnu ar dystiolaeth gan rywun proffesiynol cymwys i gefnogi’r hyn a ddywedir gennych felly dylech sicrhau eich bod yn rhoi enw meddyg neu enw cynrychiolydd proffesiynol arall sydd yn gwybod am ac sydd yn gallu esbonio anghenion eich plentyn wrth lywodraethwyr yr ysgol .
Beth y dylech ei wneud os yw’ch cais yn aflwyddiannus
Pan fydd ysgolion yn llawn, y mae’n anorfod y bydd rhai rhieni a phlant yn cael eu siomi. Ni fydd modd i’r ysgol gynnig lle i bob un sydd yn dymuno mynychu’r ysgol. Y mae gan rieni yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y llywodraethwyr os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg neu os ydynt yn credu bod modd i’r ysgol dderbyn mwy o ddisgyblion nag y mae’r ffigwr swyddogol yn honni.
Os ydy hyn yn digwydd yn eich achos chi, y mae’n bwysig i chi wneud apel i’ch achos gael ei glywed gan banel annibynnol. Yn y lle cyntaf, bydd yr ysgol yn gadael i chi wybod am eich hawl i apelio gan eich gwahodd i wneud apel ysgrifenedig. Nid oes angen ond llythyr byr i’r Pennaeth neu i Glerc y Llywodraethwyr yn datgan eich bod yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y llywodraethwyr i beidio â chynnig lle i’ch plentyn. Bydd ysgolion yn rhoi dyddiad cau i’r broses hon fel bod modd trefnu gwrandawiad apel yn unol â Chod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar Apeliadau Mynediadau Ysgolion.

