churchschoolwales.org

Ysgolion Eglwysig Yng Nghymru

Gwna'r Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig gyfraniad mawr i'r system addysg yng Nghymru drwy ddarparu bron i 300 o ysgolion. Golyga hyn fod 60,000 o blant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a chanddynt ethos Gristnogol gref ac unigryw o fewn y cwricwlwm ac hefyd yng ngofal bugeiliol eu disgyblion, eu staff a'u teuluoedd.

Y mae ysgolion eglwysig ledled Cymru a Lloegr yn cynnig hyd at 25% o'r lleoedd ysgol mewn rhai ardaloedd. Y maent yn amrywio o ran maint o ysgolion cynradd pentref gyda llai nag hanner cant o ddisgyblion i ysgolion cyfun mawr gyda dros 1,500 o ddisgyblion. Eu nod yw darparu'r addysg orau posibl i'w myfyrwyr o fewn cyd-destun Cristnogol a chydag ymrwymiad cryf.

Ceir tri phrif fath o ysgol eglwysig, sef.

Ysgolion Gwirfoddol a Cymorthedig

Yn yr ysgolion hyn, y Llywodraethwyr sydd yn gyfrifol am gyflogi'r staff, am fynediadau i'r ysgol ac hefyd am gynnwys y maes llafur addysg grefyddol. Bydd y gwasanaeth dyddiol o fewn yr ysgol yn dilyn y traddodiad Anglicanaidd neu Gatholig a bydd hwn yn un o'r gweithgareddau allweddol sydd yn cyfrannu at yr ysbryd o gymuned a'r ethos Gristnogol gref sydd mor nodweddiadol o ysgolion eglwysig. Y mae disgwyl i'r llywodraethwyr ddod o hyd i 15% o gost gwaith adeiladu mawr ar adeiladau'r ysgol. Mae corff llywodraethol yr ysgolion hyn yn cynnwys llywodraethwyr a enwebwyd gan yr Eglwys a'r Awdurdod Addysg Lleol ac eraill a etholwyd gan y rhieni a'r staff; y llywodraethwyr a enwebwyd gan yr Eglwys fydd bob amser yn ffurfio'r mwyafrif.

Ysgolion Gwirfoddol a Rheoledig

Yn yr ysgolion hyn, yr Awdurdod Addysg Lleol sydd yn gyfrifol am gyflogi'r staff, am fynediadau i'r ysgol ac hefyd am gynnwys y maes llafur addysg grefyddol, oni bai i'r ysgol ddewis dilyn maes lafur enwadol, gyda chytundeb y rhieni. Bydd y gwasanaeth dyddiol o fewn yr ysgol yn dilyn y traddodiad Anglicanaidd neu Gatholig a bydd hyn yn un o'r gweithgareddau allweddol sydd yn cyfrannu at yr ysbryd o gymuned a'r ethos Gristnogol gref sydd mor nodweddiadol o ysgolion eglwysig. Yr Awdurdod Addysg Lleol fydd yn ariannu gwaith adeiladu mawr yn yr ysgol. Mae corff llywodraethol yr ysgolion hyn yn cynnwys llywodraethwyr a enwebwyd gan yr Eglwys a'r Awdurdod Addysg Lleol ac eraill a etholwyd gan y rhieni a'r staff, ond nid oes mwyafrif gan yr un garfan.

Ysgolion Sylfaenol

Y mae nifer fechan o ysgolion sefydledig yng Nghymru lle mae'r llywodraethwyr yn cyflogi'r staff ac yn gyfrifol am fynediadau i'r ysgol ond lle mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn gyfrifol am gynnwys y maes llafur addysg Grefyddol, oni bai i'r ysgol ddewis dilyn maes llafur enwadol, gyda chytundeb y rhieni. Bydd y gwasanaeth dyddiol o fewn yr ysgol yn dilyn y traddodiad Anglicanaidd neu Gatholig a bydd hyn yn un o'r gweithgareddau allweddol sydd yn cyfrannu at yr ysbryd o gymuned a'r ethos Gristnogol gref sydd mor nodweddiadol o ysgolion eglwysig. Yr Awdurdod Addysg Lleol fydd yn ariannu gwaith adeiladu mawr yn yr ysgol. Mae corff llywodraethol yr ysgolion hyn yn cynnwys llywodraethwyr a enwebwyd gan yr Eglwys a'r Awdurdod Addysg Lleol ac eraill a etholwyd gan y rhieni a'r staff, ond nid oes mwyafrif gan yr un garfan.